Hyfforddiant

Drwy ein partneriaid, Whizzard Helicopters, gallwn roi’r holl arweiniad ac adnoddau y bydd eu hangen arnoch i gyrraedd eich nod o ddysgu hedfan. Gallwn roi’r hyfforddiant i chi ddod yn Beilot Preifat o’n safleoedd yn y Trallwng a Chaerdydd a gallwn roi hyfforddiant Masnachol o’n safle yn y Trallwng. I weld a hoffech ennill trwydded peilot hofrennydd, yna beth am gymryd y llyw yn un o’n gwersi profi neu ddiwrnodau Pro Pilot.

Gallwn hefyd gynnig hyfforddiant ar fath arall o hofrennydd, sef yr R44 Piston a’r Bell 206 Jet Ranger Turbine.

Cysylltwch â ni i weld sut gallwn ni helpu.