Amdanom Ni

Sefydlwyd Hover Helicopters yn 2016 pan gafodd Hofrenfa Dinas Caerdydd ei hailagor. Mae gan y cwmni – ynghyd â’i bartner Whizzard Helicopters – dros 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant hofrenyddion, gan gynnwys siartro hofrenyddion un a dwy injan, teithiau profiad a theithiau pleser, hyfforddiant, gwaith gwasanaethau, ffotograffiaeth a ffilmio o’r awyr a ffilmio ym mhob cwr o’r DU a Sbaen. Cafodd Hover ei sefydlu gan Beilot Hofrennydd Preifat a hyfforddodd gyda Whizzard o’u pencadlys yn y Trallwng yn 2008 ac mae e bellach eisiau sicrhau bod teithiau hofrennydd yn dod yn fwy hygyrch ym Mhrifddinas Cymru.

Mae pencadlys Hover yn Hofrenfa Dinas Caerdydd gydag ail safle yn y Trallwng, Canolbarth Cymru, lle mae’r holl wasanaethau ar gael, ond gallwn gynorthwyo gydag unrhyw agwedd ar wasanaethau hofrennydd ledled y DU gyfan.

Yn ogystal â’r ddau brif safle, rydym hefyd yn cynnig ein teithiau profiad mewn hofrennydd o safleoedd dros dro yn Eryri, Lerpwl a Manceinion ar wahanol ddyddiadau drwy gydol y flwyddyn, sy’n rhoi’r cyfle perffaith i chi gael profiad o deithio mewn hofrennydd gan hedfan dros eich cartref, y ddinas agosaf, stadiwm pêl-droed neu rai o’r golygfeydd mwyaf syfrdanol yn y DU, os nad y byd i gyd.

Ein nod yw rhoi’r gwasanaethau gorau posibl i chi, boed hynny’n golygu mynd ar daith mewn hofrennydd am y tro cyntaf, dysgu i hedfan, teithio i’ch priodas, cyrraedd digwyddiad neu ddefnyddio ein gwasanaethau i gyrraedd cyfarfod hollbwysig.

Ein partneriaid Whizzard Helicopters sy’n ymgymryd â’r rhan fwyaf o’n teithiau hedfan dan Dystysgrif Gweithredwr Awyren rhif GB2284; fodd bynnag, efallai y bydd gweithredwyr cymwys eraill sydd wedi’u cymeradwyo gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) yn gyfrifol am nifer o deithiau hedfan hefyd, a bydd manylion o’r fath yn cael eu rhoi i chi cyn unrhyw daith. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn rydym yn ei wneud, cadwch lygad ar ein tudalennau Facebook, Twitter ac Instagram.

Hofrenfa Caerdydd

Mae’n bosibl mai Hofrenfa Dinas Caerdydd yw’r cyfleuster gorau o’i math yn y DU. Adeiladwyd yr hofrenfa yn benodol ar gyfer gwasanaethau hofrennydd, ac mae wedi’i lleoli ychydig filltiroedd o ganol Caerdydd. Dyma’r ffordd berffaith o gyrraedd nifer o ddigwyddiadau mawr y ddinas gan gynnwys twrnament rygbi’r Chwe Gwlad, rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2017 a chyngherddau amrywiol gan artistiaid enwog. Mae’r cyfleuster ar agor 7 niwrnod yr wythnos ac mae wedi’i reoli gan dîm profiadol sy’n cynnig gwasanaethau ail-lenwi, tâl ysguborio a gwasanaethau teithwyr i weithredwyr sydd wedi’u lleoli yn yr hofrenfa gan gynnwys Hover Helicopters, Ambiwlans Awyr Cymru a nifer o awyrennau sy’n ymweld â’r hofrenfa.

Mae’r ffaith ein bod wedi’n lleoli yn yr hofrenfa yn rhoi cyfle gwych i ni ddarparu ein gwasanaethau i bobl a busnesau De Cymru o gyfleuster sy’n benodol ar gyfer y gwaith!

I gael rhagor o wybodaeth am yr hofrenfa, ewch i http://www.cardiffheliport.com/, neu os hoffech ymweld â ni, rydym ni yma yn Hover yn fwy na pharod i drafod unrhyw ofynion sydd gennych dros baned o de. Mae tîm rheoli’r Hofrenfa hefyd yn hapus iawn i groesawu ymwelwyr a’u dangos o amgylch yr hofrenfa.