Siartr

Yma yn Hover Helicopters rydym yn gallu cynorthwyo gydag unrhyw agwedd ar deithiau siartr mewn hofrennydd. Gallwch hedfan i’ch digwyddiad arbennig neu gyfarfod busnes pwysig yn ffyddiog eich bod yn nwylo peilotiaid a staff cwbl broffesiynol. Hedfanwch o’n safle yn Hofrenfa Caerdydd, lle bydd ein staff yno i’ch croesawu chi a’ch tywys naill ai i’r lolfa VIP neu yn syth i’r hofrennydd. Gallwn drefnu bod yr hofrennydd yn eich casglu o rywle sy’n agosach at eich cartref; hyd yn oed o’ch gardd (os bydd hynny’n bosibl).

Gellir trefnu teithiau trosglwyddo hefyd - o’ch lleoliad i’r man gadael o’ch dewis chi ac yna o’r man y byddwch yn glanio i’ch man terfynol os bydd angen. Defnyddiwch y dudalen ‘Cysylltu â ni’ i ddweud wrthym beth bydd ei angen arnoch, ac fe wnawn ni’n gorau i drefnu’r hyn fydd orau i chi. I gael manylion am ein teithiau siartr i ddigwyddiadau arbennig, ewch i’r dudalen ‘Digwyddiadau’.

Teithio Busnes a Hamdden

Gyda chyflymder uchaf o tua 120 milltir yr awr, yr hofrennydd yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o deithio, gan osgoi’r tagfeydd traffig ar ein traffyrdd a’r trenau gorlawn. Dim ond ychydig dros awr mae’n ei gymryd i deithio mewn hofrennydd o Gaerdydd i Hofrenfa Battersea, Llundain.

Trosglwyddo O'r Maes Awyr

Os ydych chi’n hedfan mewn awyren i un o’r meysydd awyr cyfagos, fel Caerdydd, Bryste neu Gloucester yna beth am orffen y siwrnai mewn hofrennydd? Gallai Hover fod ar y tarmac yn aros i’ch awyren gyrraedd er mwyn sicrhau siwrnai ddidrafferth i’ch cyrchfan, fel Hofrenfa Dinas Caerdydd, un o’r gwestai cyfagos neu eich cartref.

Pecynnau Hofrennydd a Gwledda/Sba

Rydym yn cydweithio â nifer o westai a thai bwyta ledled Cymru i gynnig profiad hollol fythgofiadwy. Gallwch naill ai gyrraedd ein safle yng Nghaerdydd neu’r safle yn y Trallwng neu gallwn eich casglu yn yr hofrennydd o fan gadael o’ch dewis chi a mynd â chi i westy. Yna bydd yr hofrennydd yn aros i chi orffen eich pryd bwyd ac yna’n mynd â chi yn ôl i’ch man gadael.

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion siartr penodol a byddwn yn rhoi pris cystadleuol iawn i chi.