Profiadau

Os ydych chi’n chwilio am yr anrheg berffaith i rywun agos atoch neu os ydych chi’n awyddus i gael eich profiad cyntaf mewn hofrennydd, yna gallwn drefnu hynny i chi yma yn Hover.

Gallwn fynd â chi ar daith bleser dros rai o’r tirweddau prydferthaf yn y DU, gan roi profiad bythgofiadwy i chi. Mae’r olygfa’n anhygoel a gallwch hefyd weld sut mae hofrennydd yn gweithio. Byddwch yn rhannu’r daith bleser ag eraill ac mae’r teithiau ar gael ar wahanol ddyddiadau drwy gydol y flwyddyn, ond pe bai’n well gennych drefnu taith breifat i chi a hyd at 3 arall, yna gallwn ddarparu hofrennydd i chi yn unig. Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.

Rydym hefyd yn cynnig gwersi profi ac felly os hoffech ragor o wybodaeth am sut mae’r hofrennydd yn gweithio ac os hoffech roi cynnig ar gymryd y llyw, yna dyma’r cynnig delfrydol i chi. Fel arfer, gwers brofi yw’r cam cyntaf tuag at ddisgyn mewn cariad â hedfan mewn hofrennydd, ac felly ymunwch â ni i roi cynnig arni! Efallai mai hwn fydd y cam cyntaf tuag at ennill eich trwydded peilot.

Mae’r hofrennydd yn ddarn unigryw o beirianwaith oherwydd ei allu i hofran, sy’n ei wneud yn awyren hyblyg iawn. Mae’r her hofran yn dangos yr hyblygrwydd hwn i chi a hefyd yn rhoi’r cyfle i chi feistroli’r grefft o hofran! Yn rhan o’r her mae gwers 20 munud gyda’r hyfforddwr a 10 munud ymarferol lle byddwch chi’n cael y cyfle i hofran yr hofrennydd yn ôl i’r maes awyr. Yn ogystal â chymryd yr her, byddwch chi hefyd yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru gan y bydd £5 o bob taith yn mynd tuag at yr elusen. Mae’r her hofran ar gael yn ein safleoedd yng Nghaerdydd a’r Trallwng. Dewch i roi cynnig arni!