Sefydlwyd Hover Helicopters yn 2016 pan gafodd Hofrenfa Dinas Caerdydd ei hailagor. Mae gan y cwmni – ynghyd â’i bartner Whizzard helicopters – dros 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant hofrenyddion, gan gynnwys siartro hofrenyddion un a dwy injan, teithiau profiad a theithiau pleser, hyfforddiant, gwaith gwasanaethau, ffotograffiaeth a ffilmio o’r awyr a ffilmio ym mhob cwr o’r DU a Sbaen.
Mae sylfaenydd Hover yn Beilot Hofrennydd Preifat a hyfforddodd gyda Whizzard o’u pencadlys yn y Trallwng yn 2008 ac mae e bellach eisiau sicrhau bod teithiau mewn hofrennydd yn dod yn fwy hygyrch ym Mhrifddinas Cymru.
Mae pencadlys Hover yn Hofrenfa Dinas Caerdydd gydag ail safle yn y Trallwng, Canolbarth Cymru, lle mae ein holl wasanaethau ar gael, ond gallwn gynorthwyo gydag unrhyw agwedd ar wasanaethau hofrennydd ledled y DU gyfan.
£59
£149
Os ydych chi’n chwilio am y rhodd berffaith i rywun agos i chi neu’n awyddus i gael eich profiad cyntaf o hedfan mewn hofrennydd, yna gallwn drefnu hynny i chi yma yn Hover. Beth am fynd ar un o’n teithiau pleser neu roi cynnig ar gymryd y llyw yn ystod gwers brofi.
Gyda blynyddoedd o brofiad a pheilotiaid sydd wedi’u hyfforddi’n llawn, gadewch i ni ofalu am anghenion eich taith mewn hofrennydd. Gallwn ddarparu gwasanaeth siartro cyfforddus, effeithlon a chyfleus mewn hofrennydd ar gyfer unigolion preifat neu grwpiau sy’n teithio i gyfarfodydd busnes, digwyddiadau chwaraeon neu achlysuron arbennig.
Mae ein partneriaid wedi bod yn hyfforddi peilotiaid ers dros 15 mlynedd, gyda nifer yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd hedfan o fewn sectorau Olew a Nwy Môr y Gogledd ac fel peilotiaid Ambiwlans Awyr. Gyda chyfleoedd i hyfforddi yng Nghaerdydd, y Trallwng a Majorca, ffoniwch ni i drafod.