Her Hofran

"…to fly is heavenly, but to hover is divine…"

Mae’r geiriau uchod yn cael eu dyfynnu’n aml wrth siarad am hedfan mewn hofrennydd ac unwaith y byddwch chi wedi cael profiad o ba mor unigryw yw’r hofrennydd i hofran, yna byddwch chi’n deall hefyd. Yma yn Hover Helicopters, nid yn unig y bydd yr Her Hofran yn caniatáu i chi gael profiad o hofran yn ystod taith mewn hofrennydd, ond byddwch chi hefyd yn cael y cyfle i gymryd y llyw a hofran yr hofrennydd eich hun! Bydd eich hyfforddwr yn dangos holl offer llywio’r hofrennydd yn ystod 20 munud cyntaf eich taith yna bydd y 10 munud olaf ar gyfer eich her chi. Dewch i ddangos beth gallwch chi ei wneud!

Yn ogystal â’r profiad ei hun, byddwch hefyd yn ein helpu i godi arian tuag at Ambiwlams Awyr Cymru; am bob taith Her Hofran sy’n cael ei gwerthu, byddwn yn rhoi canran o’r elw tuag at yr elusen.

Bydd hefyd opsiwn o brynu fideo o’ch taith gan y byddwn yn ffilmio’r profiad o’r tu mewn i’r hofrennydd ac yn yr hofrenfa fel y gallwch ddangos eich profiad i’ch teulu a’ch ffrindiau. (cost ychwanegol).

Bydd yr Her Hofran ar gael yn ein safleoedd yng Nghaerdydd a’r Trallwng.