Hedfan Pleser

Mae ein Teithiau Pleser ar gael o’n safleoedd yn Hofrenfa Caerdydd a Maes Awyr y Trallwng, gyda rhai teithiau dyddiadau penodol ar gael o leoliadau eraill hefyd yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys Eryri (Betws y Coed), Manceinion (maes awyr Baron) a Lerpwl (cae ras Aintree). Mynd ar daith bleser yw un o’r ffyrdd gorau o weld harddwch syfrdanol ble rydyn ni’n byw. Mae hyd teithiau yn amrywio o daith 10 munud fer i deithiau preifat sy’n para tua awr.

Does dim ots pa daith rydych chi’n ei dewis, rydym yn sicr y byddwch chi neu’r person ar y daith yn wên o glust i glust wrth lanio! Mae taith bleser yn rhodd ddelfrydol i rywun agos i chi a dyma sut mae’r rhan fwyaf o bobl yn disgyn mewn cariad â hedfan mewn hofrennydd! Yn ogystal â’r pecynnau teithiau pleser safonol, os oes gennych gais penodol, gallwn deilwra profiad i gwrdd â’ch anghenion chi lle byddech yn gallu hurio’r hofrennydd cyfan. Dim ond yn ein safleoedd yng Nghaerdydd a’r Trallwng mae modd teilwra’r pecyn, ond mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod eich cais ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu! Hefyd, hoffwch a dilynwch ein tudalen Facebook i gael rhagor o wybodaeth am y Digwyddiadau Arbennig byddem yn gallu mynd iddynt yn ystod y flwyddyn.

Cliciwch ar leoliad isod i weld y teithiau sydd ar gael.

Mannau Gadael Teithiau Pleser