Gwersi Treial

Mae ein gwersi profi’n cael eu cynnig yn ein safleoedd yng Nghaerdydd a’r Trallwng ac mae’n bosibl eu gwneud yn yr R22, yr R44 neu awyren y jet ranger. Mae pob gwers brofi yn dechrau gyda sesiwn briffio hanner awr gan hyfforddwr cwbl gymwys lle bydd yn esbonio egwyddorion hedfan mewn hofrennydd ac yn dangos y gwahanol gydrannau o amgylch yr awyren. Yna byddwch yn mynd i eistedd yn yr hofrennydd ac yn cychwyn am daith o amgylch yr ardal leol. Bydd eich hyfforddwr yn dangos yr offer llywio i chi ac yn rhoi cyfle i chi gymryd llyw yr hofrennydd.

Gallwch ddefnyddio unrhyw amser rydych chi’n ei dreulio yn yr hofrennydd i gyfrannu tuag at y cyfanswm oriau sy’n ofynnol ar gyfer ennill trwydded peilot preifat. Os hoffech ddysgu mwy am hedfan hofrennydd ar ôl eich gwers, yna cysylltwch â ni eto a byddwn yn fwy na pharod i drafod y posibiliadau gyda chi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r gwersi profi, mae croeso i chi gysylltu â ni.