Digwyddiadau Arbennig

Beth am gyrraedd digwyddiad arbennig mewn steil? Gallwn drefnu taith hofrennydd i nifer o ddigwyddiadau gwahanol gan gynnwys digwyddiadau rasio ceir, rasio ceffylau, gwyliau a digwyddiadau chwaraeon mawr eraill. Fel arfer mae degau o filoedd o bobl yn mynd i’r digwyddiadau hyn ac felly yn amlwg mae mwy o draffig; felly beth am drefnu hofrennydd a hedfan yn syth i’r lleoliad neu rywle gerllaw.

Os ydych yn trefnu digwyddiad ac y byddech yn hoffi cynnig rhywbeth gwahanol, beth am gysylltu â ni i drafod trefnu Teithiau Pleser fel rhan o’r digwyddiad. Hoffwch ein tudalen Facebook i gael rhagor o wybodaeth am Ddigwyddiadau Arbennig y byddwn yn mynd iddynt o bosibl.

Digwyddiadau Chwaraeon

Os ydych chi’n bwriadu mynd i un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf Caerdydd, yna beth am drefnu hofrennydd siartr i chi a’ch ffrindiau neu gydweithwyr. Byddech yn osgoi’r traffig ac yn glanio o fewn dwy filltir i stadiwm y Principality. Gallwn hyd yn oed drefnu i chi deithio ymlaen i’r stadiwm o’r hofrenfa. Os hoffech deithio o Gaerdydd i un o’r nifer o ddigwyddiadau chwaraeon gwahanol o amgylch y wlad fel rownd derfynol cwpan yr FA, Gemau’r Brif Gynghrair, Wimbledon, gemau rygbi Cystadleuaeth y Chwe Gwlad, Silverstone neu’r Moto-GP, yna cysylltwch â ni a bydd ein tîm gweithrediadau yn fwy na pharod i’ch helpu.

Gwyliau Cerddorol

Yma yn Hover, gallwn eich helpu i gyrraedd eich hoff wyliau mewn hofrennydd. Gallech osgoi’r traffig a’r meysydd parcio llawn dŵr a glanio y tu allan. Mae gan nifer o’r gwyliau mwy o faint fannau glanio penodol i hofrenyddion ar gyfer y perfformwyr neu’r gwesteion, felly cydiwch mewn pabell a dewch am dro gyda ni. Mae Glastonbury, V Festival, Isle of White Festival a nifer o rai eraill ymhlith y gwyliau sy’n boblogaidd ar gyfer teithio yno mewn hofrennydd. Os ydych chi’n trefnu mynd i un o’r gwyliau hyn, yna ffoniwch ni.

Rasio Ceffylau

Os hoffech roi bet fach ar geffyl, ond nad ydych chi’n hoffi’r ods o orfod eistedd mewn traffig ar y ffordd i’r rasys, yna beth am ystyried taith siartr mewn hofrennydd? Mae gan nifer o’r cyrsiau fannau glanio penodol i jocis, perchenogion, hyfforddwyr a gwesteion ac mae digwyddiadau rasio mawr fel Ascot a Gwyl Cheltenham yn cynyddu nifer y mannau glanio sydd ar gael oherwydd bod mwy a mwy o hofrenyddion yn dod yno. Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook i gael gwybod am y digwyddiadau rasio a gweld a yw ein teithiau hofrennydd ar gael i’r digwyddiadau hyn.

Rownd Derfynol Cynghrair Y Pencampwyr

Mae rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn dod i Gaerdydd ym mis Mehefin 2017! Os hoffech deithio i’r digwyddiad mewn hofrennydd, cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau i’ch cynorthwyo naill ai drwy drefnu taith siartr benodol i chi neu drefnu gwasanaeth gwennol o faes awyr neu westy gerllaw.

Priodas

A hoffech chi gael taith fythgofiadwy ar ddiwrnod eich priodas? Yna cysylltwch â ni i drafod teithiau siartr mewn hofrennydd ar y diwrnod mawr! Gallwn drafod mannau gadael a chyrraedd ac yna gallwch fwynhau’r golygfeydd o’r awyr wrth i ni eich cludo yn ystod eich diwrnod arbennig.